Grwp o ddarlunwyr profiadol, wedi eu lleoli yng ngorllewin Cymru ac sydd yn gweithio ar eu liwt eu hun yw darlunwyr WOW. Mae aelodau’r grwp yn gweithio mewn aml arddull, categori a chyfrwng ac mae eu gwaith wedi eu cyhoeddi ym Mhrydain a thramor.Byddwn yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn atgoffa’n gilydd bod byd arall i’r hyn sydd o fewn ein stiwdios. Bwriad sefydlu’r wefan hon yw i gyfathrebu â’r byd hwnnw.

Nid asiant yw Darlunwyr WOW. Pan fyddwch yn comisiynu gwaith wrth aelod, ni bydd angen i chi dalu ffi i Ddarlunwyr WOW. Byddwch yn delio’n uniongyrchol â’r aelod yn hytrach na’r grwp.Yn hyn o beth, gwasanaeth yw’r wefan hon gan Ddarlunwyr WOW i’w aelodau ac fe gynrychiolir pawb yma fel bobl proffesiynol, annibynnol.

Oes gennych chi ddiddordeb i gomisiynu gwaith darlunio? Mae gan bob artist ei dudalen ffolio ei hun ar y wefan a fydd yn cynnwys eu manylion cyswllt. I wneud ymholiadau cyffredinol, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.

Edrychwn ymlaen at glywed wrthych. Mwynhewch y wefan!

 
Dyluniwyd gan Coral Creative