| |
Sarah Adams
Rwyf wedi bod yn ddarlunydd llawn amser ers 1979, gan arbenigo
mewn unrhyw beth sy’n gysylltiedig â byd natur, anifeiliaid,
cefn gwlad a gerddi. Rwy’n gyfarwydd â gweithio o fewn terfynau
amser, ac ar hyd y blynyddoedd mae fy ngwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau
di ri sy’n amrywio o gardiau cyfarch a chalendrau i lyfrau, cylchgronau
ac ym myd hysbysebu. Rwy’n gweithio drwy gyfrwng y Saesneg.
|